Cynulliad Cenedlaethol Cymru
8 Chwefror 2012
Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
ar gyfer y Bil Gwasanaethau Ariannol
1. Ar 7 Chwefror 2012, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 29.4, i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Gwasanaethau Ariannol i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol er mwyn iddo ystyried y darpariaethau perthnasol ac adrodd yn ôl arnynt.
2. Yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 29.5, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol adrodd yn ôl i’r Cynulliad erbyn 21 Mawrth 2012.